Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021
Amser:
08.32 -
10.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11073
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd) Michelle Brown AS Neil McEvoy AS Jack Sargeant AS Leanne Wood AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd gydag ymateb gan y Llywodraeth
2.1 P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy'n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd oherwydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd ac, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth gan y Prif Weinidog, mae deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.2 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog i ystyried opsiynau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd, cytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd.
2.3 P-05-1107 Caniatáu i gantorion / adloniant byw ailddechrau yn yr awyr agored
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni bwriad y Llywodraeth i lacio cyfyngiadau fesul tipyn yn y cylch adolygu bob tair wythnos, a chan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.4 P-05-1110 Dylid adfer nofio am ddim i bensiynwyr
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ymateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn nodi bod y cynllun Nofio Am Ddim wedi'i ail-flaenoriaethu yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.5 P-05-1120 Dylai Llywodraeth Cymru atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni bwriad presennol Llywodraeth Cymru i godi cyfyngiadau mewn modd graddol, nododd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.6 P-05-1122 Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth yn y cyfyngiadau lefel rhybudd 4
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni’r ffaith mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor hwn, a'r tebygolrwydd y bydd y rheolau ynghylch swigod cefnogaeth wedi newid erbyn i'r pwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.7 P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru'n gweithredu yn unol â'r rheolau haen 4 yn Lloegr
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021
Ystyriodd y Pwyllgor y deisebau am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni arwydd Llywodraeth Cymru y bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant yn gallu ailddechrau o 29 Mawrth, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.
2.8 P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021.
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru'n gweithredu yn unol â'r rheolau haen 4 yn Lloegr
Ystyriodd y Pwyllgor y deisebau am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni arwydd Llywodraeth Cymru y bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant yn gallu ailddechrau o 29 Mawrth, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.
2.9 P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor y Gweithlu Addysg i dynnu sylw at y ddeiseb a'r wybodaeth a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd, a gofyn am ei ymateb i'r cynigion a wnaed.
2.10P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o'r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni'r ffaith mai awdurdodau lleol unigol a chynghorwyr sy’n gyfrifol am osod y dreth gyngor, a bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynigion a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer yn rhagor y gall ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.11P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd, cytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch darparu profion llif unffordd ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio yn y sector preifat.
2.12P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ystyried a ellir diweddaru'r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol i nodi'n glir y dylent weithredu nifer o systemau ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn gyfochrog, gan gynnwys taliadau arian parod neu dalebau.
2.13P-05-1142 Cynllun Mynd Allan i Helpu Allan
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol ar ôl Etholiad y Senedd, o ystyried pwysigrwydd gweithgareddau corfforol wrth atal problemau iechyd corfforol a meddyliol.
2.14P-05-1143 Ail-agorwch ysgolion yn llawn ar unwaith ar ôl hanner tymor mis Chwefror
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni dychweliad graddol presennol disgyblion i ysgolion, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.15P-05-1144 Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd pa mor gryf oedd y teimladau a fynegwyd gan y ddeiseb. Fodd bynnag, yng ngoleuni cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu caniatáu i ganolfannau garddio ailagor o 22 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.16P-05-1145 Caniatewch i rieni plant ifanc yrru i ddefnyddio parciau a meysydd chwarae lleol yn ystod y cyfyngiadau symud haen 4
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod teithio i barciau a meysydd chwarae lleol bellach yn cael ei ganiatáu o ganlyniad i’r canllawiau diweddar i 'aros yn lleol'. Gan fod nodau'r deisebau wedi'u cyflawni, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.17P-05-1146 Dylid darparu map trywydd ar gyfer sut y gall priodasau gael eu cynnal yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd 2021, yr adolygiad o’r cyfyngiadau bob tair wythnos a'r ffaith bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Grŵp Rhanddeiliaid Priodasau, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer rhagor y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunwyd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.18P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu gohebiaeth bellach y deisebydd i'r Gweinidog Addysg a, gyda chytundeb y deisebydd, manylion ysgolion nad ydynt yn darparu unrhyw wersi byw neu rai wedi'u recordio, a gofyn i'r Gweinidog ystyried pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer codi'r mater hwn ymhellach gyda'r ysgol neu'r awdurdod addysg lleol dan sylw.
2.19P-05-1103 Rhowch derfyn ar gymhwyso'r un cyfyngiadau Covid-19 ar draws Cymru gyfan
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn etholiadau’r Senedd a’r tebygolrwydd y bydd amgylchiadau’n parhau i newid erbyn i’w bwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.20P-05-1141 Dylid gwneud Etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r heddlu wedi ceisio rhoi rhybudd a dirwy iddo am ddosbarthu taflenni.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
nododd y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mawrth y gellir ailddechrau dosbarthu taflenni'n lleol, yn dilyn y newid yn y cyngor i 'aros yn lleol'. Yng ngoleuni hyn, ac oherwydd mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn yr Etholiad, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.21P-05-1148 Agorwch ysgolion yn llawn i bob oedran yng Nghymru fel y cam nesaf o 15 Mawrth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ffaith bod y ddeiseb hon wedi'i chodi gyda'r Llywodraeth a bod disgwyl i'r holl ddisgyblion fod yn ôl yn yr ysgol o 12 Ebrill ymlaen, cytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd, ac y byddai'n diolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
2.22P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
2.23P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y bydd dosbarthiadau babanod a phlant bach yn gallu ailddechrau, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
2.24P-05-1152 Caewch yr ysgolion! Cadwch ein plant yn ddiogel. Oherwydd y cynnydd mewn COVID-19. Achubwch ein dyfodol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt, a hynny ym mis Rhagfyr 2020. Yng ngoleuni hyn, a'r diffyg cyswllt gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
2.25P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y mae’n ystyried y gall campfeydd a chwaraeon i blant ailddechrau, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd.
2.26P-05-1154 Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y mae’n ystyried y gall busnesau yn y diwydiant lletygarwch ailddechrau, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
2.27P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dŵr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd.
2.28P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru.
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.
Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23 Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.
3.2 P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.
Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23 Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.
3.3 P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru a P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru.
Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23 Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.
3.4 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog ac awydd y deisebydd i ddarparu gwybodaeth bellach yn y dyfodol, a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.
3.5 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol. O ystyried mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd, a’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd i fod i gael ei gynnal ar y cais trwyddedu morol, cytunodd i drosglwyddo’r wybodaeth bellach a ddaeth i law i’w hystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac i ofyn i’w bwyllgor olynol ystyried y ddeiseb ymhellach yng ngoleuni'r sefyllfa ar ôl Etholiad y Senedd.
3.6 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu
Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r Deisebydd yn hysbys iddi, ac mae hi wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf yng ngoleuni'r sefyllfa bryd hynny, gan gynnwys mewn perthynas â chyhoeddi adroddiadau Adran 19.
3.7 P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol
Nododd y Pwyllgor yr ymatebion pellach a ddaeth i law a boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r camau a gymerwyd i sefydlu Cytundeb Rheoli, a phenodi Rheolwr y Warchodfa yn ddiweddar. O ystyried hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw'n ymddangos bod prynu gorfodol yn ddatrysiad priodol ar hyn o bryd, a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
3.8 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i gyfeirio'r ddeiseb at y Senedd nesaf a gofyn i'w bwyllgor olynol ystyried yr alwad i wahardd defnyddio cewyll adar hela a'r adolygiad o'r Cod Ymarfer er Lles Adar Hela yn y cyd-destun bryd hynny.
3.9 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws
Mynegodd y Pwyllgor ei siom nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i sefydlu cynllun o'r math a gynigiwyd gan y ddeiseb. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd i symud y ddeiseb yn ei blaen yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.
3.10P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog
Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb pellach a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod y Llywodraeth wedi gofyn i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ystyried amgylchiadau unigol gweithwyr cronfa’r GIG yn y sefyllfa hon. Yn sgîl hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer o gamau eraill y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.11P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog, y sefyllfa sydd wedi newid ers cyflwyno'r ddeiseb a'r gofynion presennol i bobl sy'n cyrraedd Cymru ymgymryd â chyfnod o hunan-ynysu a phrofion wrth gyrraedd. Gan nad oes llawer pellach y gall y Pwyllgor ei wneud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.12P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y blaenoriaethu cynyddol a roddir yn awr i bobl ag anabledd dysgu yn y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.
3.13P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu'r profiadau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac i ofyn am roi ystyriaeth bellach i ddarparu rhagor o gefnogaeth benodol i'r sector cerddoriaeth fyw, o ystyried y tebygolrwydd na fydd digwyddiadau cerddorol yn gallu ailddechrau yn y dyfodol agos. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i aros am ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad ar y mater hwn a luniwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
3.14P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb.
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol.
3.15P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol.
3.16P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi ymgyrchu'n helaeth ar y mater hwn.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymrwymiad i ddarparu rhagor o fanylion am gynnig cyllid pan fydd hwn ar gael. Gan mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd 2021, cytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
3.17P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a nododd y gwaith diogelwch sydd wedi'i wneud ar y ffordd ers cyflwyno'r ddeiseb, gan gynnwys terfyn cyflymder newydd o 40mya. Yng ngoleuni sicrwydd y Gweinidog y parheir i fonitro cydymffurfiad â'r terfyn cyflymder newydd a'r angen am ragor o welliannau diogelwch, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim rhagor y gall ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.
3.18P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, ar sail boddhad y deisebydd bod y Llywodraeth wedi cyfarwyddo cynghorau i dalu'r grant dewisol i fusnesau o'r math hwn, cytunodd i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.
4 Adolygiad o’r deisebau sy'n cael eu hystyried
Adolygodd y Pwyllgor restr o'r deisebau eraill sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Yn unol â'i arwydd blaenorol y byddai'n trosglwyddo nifer gyfyngedig o ddeisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol ar ôl Etholiad y Senedd, cytunodd ar y camau arfaethedig ar y deisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd a amlinellir yn y papur a ddarparwyd.
5 Papurau i’w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drenau yn Sanclêr
5.2 P-05-1017 Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle'r ysgol
5.3 P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol
5.4 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu
5.5 P-05-1077 Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach
5.6 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.
Sylwadau'r Cadeirydd i gloi
I gydnabod diwedd cyfarfod olaf y Pwyllgor, nododd y Cadeirydd ei fod wedi ystyried 473 o ddeisebau newydd gyda chyfanswm o fwy na miliwn o lofnodion yn ystod tymor y Senedd hon, ac y byddai adroddiad gwaddol ar ei waith yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb sydd wedi cyflwyno deisebau a’u llofnodi, wedi darparu tystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor, y staff sydd wedi'i gefnogi, a holl Aelodau'r Pwyllgor yn ystod yr amser hwn.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
7 Adroddiad Gwaddol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol, a chytunodd i wneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf.